Ar ol y newyddion da ynglyn a iechyd ein hafonydd ar droad y flwyddyn, mae ambell stori llai cadarnhaol wedi ymddangos yn y wasg yn ddiweddar. Ar ol i ddata Asiantaeth yr Amgylchedd ddangos bod rhywogaethau o bysgod yn dychwelyd i afonydd Cymru oherwydd bod safon dwr wedi gwella’n sylweddol, ymddengys nad yw hyn yn wir ar gyfer pob rhywogaeth. Mae’r stori yma yn nodi bod niferoedd brithyll y mor, neu’r sewin, a fu mor niferus yn afonydd Cymru ac mor boblogaidd ar fwydlenni, yn lleihau. Yn y gorffennol, bu afonydd fel Afon Tywi, Afon Teifi ac Afon Dyfi yn enwog am y sewin oedd ynddynt. Bellach mae’r niferoedd wedi gostwng, yn ogystal a maint y pysgod eu hunain. Yn ogystal a bod yn achos pryder amgylcheddol amlwg, mae’n bosib bod hyn hefyd yn bygwth twristiaeth pysgota. Fel mae Emyr Lewis, a arferai weithio fel cipar ar Afon Ddyfi, roedd pysgotwyr yn dod o bell i westai Bro Ddyfi er mwyn profi’r pysgota sewin gorau. Mae’r ffaith nad ydym yn gwybod yn iawn beth mae’r pysgod yma yn ei wneud pan y mae’n nhw allan yn y mor yn ychwanegu at y dryswch a’r pryder sydd ynghlwm a’r mater yma.
Yn ogystal a’r newyddion drwg yma, mae ein coedwigoedd hefyd yn wynebu problemau. Mae’n ymddangos bod ‘Sudden Oak Death‘ sydd wedi lladd nifer fawr iawn o goed deri yng Ngogledd America bellach wedi lledu i’r wlad yma, ac wedi ‘neidio’ i rywogaeth arall sef llarwydd Siapan (Japansese Larch). Mae’r clefyd, sydd yn perthyn i’r un clefyd oedd yn gyfrifol am y newyn yn Iwerddon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn y Deyrnas Unedig ers 2002, ond roedd yn ymddangos bod coed deri’r gwledydd yma yn medru ei wrthsefyll. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi ymateb trwy ddechrau cwympo coed yn nyffryn Afan yn ne Cymru, ac wedi clustnodi ardal o dros 2,000 cyfer ar gyfer clirio pellach i drio atal y clefyd rhag lledaenu. Mae achosion hefyd wedi cael eu nodi yn nyffryn Garw, Bro Morgannwg, Castell Nedd, wrth ymyl Llyn Brenig yn Sir Ddinbych ac ym Mwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth. Mae rhai wedi nodi bod hyn o bosib yn ganlyniad i newid hinsawdd wrth inni brofi hafau gwlypach a chynhesach sydd yn amgylchiadau boddhaol ar gyfer tyfiant y clefyd. Y gobaith yw y bydd gweithgareddau buan y Comisiwn yn sicrhau nad yw’r clefyd yn lledaenu nac yn dechrau effeithio rhywogaethau eraill, yn enwedig felly y coed deri sydd yn gymaint rhan o amgylchedd hanesyddol a chyfredol Cymru.

