Ar yr ochr ddynol o ddaearyddiaeth, mae yna brosiect ymchwil newydd wedi cychwyn yn Aberystwyth, yn ymwneud a perthynas dinasyddion a’r wladwriaeth. Rydym yn ymwybodol ein bod ein cymdeithas bellach yn wynebu cyfres o heriau amrywiol sy’n deillio o ymddygiad amhriodol ar ran dinasyddion. Rydym yn profi argyfwng credyd sydd wedi deillio i raddau helaeth o anallu unigolion i gynllunio mewn ffyrdd synhwyrol ar gyfer eu dyfodol. Mae nifer cynyddol o bobl ifainc ac oedolion yn ordew ac yn creu straen ar eu cyrff a’r Gwasanaeth Iechyd. Mae nifer ohonom hefyd yn gyndyn iawn i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gan gynyddu’r problemau amgylcheddol sy’n wynebu’n byd.
Fel ffordd o ymateb i’r heriau hyn, mae’r wladwriaeth, corfforaethau ac unigolion eraill yn ceisio annog dinasyddion i ymddwyn mewn ffyrdd a fydd o fudd iddynt hwy – er enghraifft, drwy gynilo arian ar gyfer ymddeoliad, bwyta’n iachach a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Dyma beth a olygir gan dadofalaeth feddal, sef yr ymgais ar ran y wladwriaeth a chyrff eraill i annog – yn hytrach na gorfodi – ymddygiad gwell a mwy chyfrifol ymysg dinasyddion.
Mae’r prosiect ymchwil tair mlynedd yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn cael ei noddi gan gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, yn ceisio astudio’r ffordd y mae polisïau o’r fath yn arwain at berthynas wahanol rhwng y wladwriaeth a’i dinasyddion:
• Pa fath o gyfrifoldebau newydd sy’n ymddangos ymysg dinasyddion yn sgil y polisïau hyn?
• Pa fath o hawliau mae dinasyddion yn meddu arnynt fel rhan o’r polisïau hyn?
• Pa ddychymyg daearyddol sy’n gysylltiedig â pholisïau o’r fath (e.e. cyfrifoldeb tuag at cyd-ddinasyddion Prydeinig ar gyfer y rheiny sy’n gor-fwyta a gor-yfed a chyfrifoldeb tuag at y byd yn gyfangwbl ar gyfer y rheiny sy’n gor-ddefnyddio adnoddau prin).
Mi wnawn ni adrodd ar ganlyniadau a datblygiadau’r prosiect dros y misoedd nesaf!
Awdur y blogiad post yma yw Rhys Jones, darlithydd mewn daearyddiaeth yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.