Mae’r prosiect sydd yn edrych ar symudiadau dyddodion yn y darn o Afon Ddyfi sydd yn cynnwys y trawsffurfiad rhwng yr amgylchedd afonol a’r amgylchedd forol bellach wedi cychwyn. Ddeuddydd cyn y Nadolig gosodwyd mesurydd TROLL (sydd yn mesur pH, tymheredd, lefel dwr, a chrynodiad dyddodion man) wrth fesurydd llif Asiantaeth yr Amgylchedd ger Pont ar Ddyfi, a gosodwyd y rhwydwaith mesur yn ei le rhwng Machynlleth a Glandyfi. Un o’r dulliau mwyaf diddorol a osodwyd yn ei le yw trawsluniau (transects) o sgwariau bychain o ddeunydd astroturf bob 50 m ar draws y gorlifdir. Hoeliwyd y sgwariau yma i mewn i’r gorlifdir a chofnodi eu lleoliad gyda system GPS. Pan fydd y llifogydd nesaf yn digwydd, bydd modd dychwelyd at y sgwariau bach yma er mwyn canfod faint o ddyddodion man a fydd wedi cael eu dyddodi arnynt gan y llif arbennig yna. Bydd hyn yn rhoi syniad inni o’r cyfradd y mae dyddodion man yn symud trwy’r ardal yma a pha mor gyflym y mae’r gorlifdir yn cael ei greu. Mi fuon ni hefyd yn mesur ardaloedd o lannau’r afon a oedd yn amlwg yn erydu, er mwyn canfod cyfraddau erydiad yn yr ardal. Mi fydd gweddill y gwaith cychwynnol yn digwydd yn ystod y mis nesaf, pan fydd y tywydd wedi meirioli ychydig, gobeithio!
