Mae echdoriad folcanig yn Ngwlad yr Ia wedi achosi i nifer fawr iawn o feysydd awyr a chwmniau awyrennau i ganslo eu teithiau heddiw. Dyma’r ail echdoriad folcanig yn ardal Eyjafjallajoekull mewn mis. Yn gynharach yn y mis echdorrodd llosgfynydd arall yn yr ardal, a oedd wedi ei leoli o dan orchudd o ia, gan achosi hollt 1km o hyd yn yr ia hwnnw. Dyma luniau o wefan y BBC yn dangos hyn http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/8578576.stm
Mae’r echdoriad diweddaraf hefyd o dan orchudd o ia ac yn parhau i echdorri ar hyn o bryd. Mae’r cwmwl o lwch a lludw, sydd yn cynnwys darnau bychain o wydr, tywod a chraig bellach wedi achosi i deithiau gael eu gohirio yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon a’r gwledydd Sgandinafaidd yn ogystal. Disgwylir i’r cwmwl symud i’r de dros Ewrop yn y dyddiau nesaf, ond nid yw’n glir i ba raddau y bydd yn teneuo ac yn gwasgaru gydag amser. Y gofid yw ar hyn o bryd y gall y darnau bychain o wydr a thywod sydd yn y cwmwl llwch achosi i beiriannau’r awyrennau beidio a gweithio, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol i awyrennau sydd yn hedfan trwy gymylau o lwch folcanig. Mae Gwlad yr Ia yn wlad sydd yn hynod o actif o ran tectoneg, oherwydd ei fod wedi ei lleoli ar y ffin rhwng platiau tectonig Gogledd America ac Ewrasia. Er bod geoffisegwyr yn ystyried yr echodoriadau diweddaraf yn rhai bychain, mae pryder y bydd yr echdoriadau yma yn achosi echdoriadau pellach gan losgfynyddoedd mwy yn yr ardal.