Ar ddechrau blwyddyn fel hyn mae nifer fawr o bynciau amgycheddol yn y newyddion sydd yn haeddu sylw. Mae llifogydd difrifol Awstralia, a’r eira mawr sydd ond wedi dechrau meirioli yn ddau bwnc amlwg ym myd daearyddiaeth ffisegol, ac rwy’n gobeithio cael cyfle i ddychwelyd atynt dros yr wythnosau nesaf.
Fodd bynnag, wrth inni ffarwelio a 2010 o dan orchudd o eira, torrodd stori ddiddorol a gobeithiol ynglyn a iechyd ein hafonydd. Mae data a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn ddiweddar yn nodi bod safon dwr afonydd ar draws Cymru a Lloegr yn well nag y bu ers cyn y Chwyldro Diwydiannol. Mae’r data yn dangos bod safon dwr wedi cynyddu bob blwyddyn ers dwy ddegawd, a bod achosion o lygredd dwr difrifol wedi hanneru yn ystod yr un cyfnod. Mae hyn wedi golygu bod bywyd gwyllt o bob math, yn eogiaid, dyfrgwn a llygod pengrwn y dwr wedi dychwelyd at yr afonydd.
Yng Nghymru yn benodol mae tystiolaeth bod dyfrgwn yn Afon Gwy wedi cyrraedd y lefelau uchaf y gall yr afon eu cefnogi, a bod basn yr Hafren yn dangos tueddiad tebyg. Yn yr afonydd hynny a fu’n wythiennau pwysig ar gyfer ffyniant y meysydd glo a haearn, fel Afon Taf, Afon Rhondda, Afon Ebbw, ac Afon Rhymni yn enwedig, mae eogiaid wedi dychwelyd mewn niferoedd uchel, a’u taith i fyny’r afon yn cael cymorth gan strwythurau fel yr ysgol bysgod wrth Blackweir yng Nghaerdydd. Ffrwyth 20 mlynedd o waith gan yr Asiantaeth yn yr ardal yw hyn.
Yn Lloegr, mae’r gwelliant a fu yn yn yr afonydd sydd yn llifo drwy ganolfannau dinesig ac ardaloedd yr hen ddiwydiannau trwm wedi bod yn rhyfeddol. Mae lefelau eogiaid yn Afon Merswy wedi cynyddu tra bod lefelau eogiaid Afon Tyne ymhlith yr uchaf yn Lloegr. Mae’r gwelliant yn Afon Tafwys wedi bod yn syfrdanol. Mae tua 125 rhywogaeth o bysgod bellach yn byw yn yr afon, mae eogiaid yn nofio i fyny’r afon, mae ei moryd yn gartre i bysgod cregyn, ac mae yna boblogaethau o frithyll brown yn rhai o’r llednentydd. Tipyn o welliant i afon a oedd yn derbyn carthffosiaeth heb ei drin tan y 60au.
Mae hyn yn newyddion da iawn i’r afonydd, ac i holl ddefnyddwr yr amgylchedd afonol, o geufadwyr i bysgotwyr a ffermwyr, ond hefyd i’r Asiantaeth ei hunan wrth iddi geisio sirchau bod holl afonydd Cymru a Lloegr yn cyrraedd safon arbennig o dan y ‘Water Framework Directive’ erbyn 2015. Set o reoliadau Ewropeaidd yw’r rhain sydd yn mesur safon dwr, nid wrth lefelau cemegolion fel y mae’r Asiantaeth yn ei ddefnyddio fel sail i’r newyddion da diweddar, ond wrth ei safon ecolegol. Hynny yw, faint o fywyd sydd yn yr afon, faint o blanhigion sydd yn tyfu ar ei gwely a’i glannau, faint o bysgod, dyfrgwn, adar a chreaduriaid di-asgwrn cefn sydd yn byw ynddi, er engrhaifft. Ar hyn o bryd dim ond chwarter afonydd Cymru a Lloegr sydd yn cyrraedd y lefel angenrheidiol ‘da’, a dros hanner yn cyrraedd y lefel ‘cymedrol.’ Fodd bynnag, fel y mae’r data diweddar yn awgrymu, wrth i safon cemegol dwr wella, mae bywyd gwyllt hefyd yn ffynnu, ac os bydd y patrwm o welliant yma yn parhau yna mae’r sefyllfa yn ymddangos yn un gadarnhaol.
Mae stori fel hyn hefyd yn codi’r cwestiwn o ba elfennau y dylid eu defnyddio wrth benderfynu ar ‘iechyd’ afon? A ddylid glynu at fesuriadau cemegol o safon dwr, neu eu cyfuno gydag ystyriaethau ecolegol, fel y mae’r ‘Water Framework Directive’ yn ei wneud? Beth am ystyriaethau esthetig, a geomorffolegol? A ellid diffinio stad geomorffolegol ‘iach’? Y gwir yw wrth gwrs, yw bod yr holl elfennau yma yn gysylltiedig. Mae amrywiaeth morffolegol mewn afon yn creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ac yn y blaen. Weithiau wrth gwrs, mae’r rheiny sydd yn mwynhau defnyddio’r afonydd ar gyfer pwrpasau gwahanol yn anghytuno ar y dulliau gorau o reoli safon a iechyd yr afonydd, ond stori arall yw honno!
http://www.guardian.co.uk/environment/2010/dec/31/freshwater-wildlife-thriving-clean-rivers
http://www.independent.co.uk/environment/nature/britains-rivers-come-back-to-life-2172580.html
http://www.independent.co.uk/environment/nature/a-giant-leap-for-british-salmon-1874222.html
