Stori arall ddiddorol a ddaeth i’r fei dros y gwyliau oedd bod posibilrwydd y byddai ‘goldrush’ newydd yn cychwyn yn ardal y Wladfa Gymreig ym Mhatgonia. Yn ol gwefan Mineweb mae prisiau uchel metelau fel aur ac arian ar draws y byd yn golygu bod archwilio newydd yn digwydd ar draws y byd. Yn ol y wefan mae’r mwyafrif o’r ardaloedd lle mae archwilio dwys yn ardaloedd sydd a hanes hir o fwyngloddio e.e. ardal yr Yukon, Ontario, Quebec, Gorllewin Affrica, Gorllewin Awstralia a De Affrica. Yr un ardal o archwilio newydd yw Patagonia, a rhanbarth Santa Cruz. Yn ol y wefan mae’r archwiliadau cynnar yn dangos gwythiennau gwerthfawr iawn, yn enwedig gwythiennau arian. Mae fflyd o gwmniau rhyngwladol bellach yn archwilio’r ardal. Mae’r wefan yn nodi y gallai hyn fod yn hwb economaidd enfawr i’r ardal, ond ei fod yn dibynnu ar gydweithrediad gan awdurdodau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol ac wrth gwrs mae cwestiynau amgylcheddol yn siwr o godi wrth i hyn ddatblygu. Dyma’r stori yn y Western Mail.
Dyma wefan Glaniad sydd yn drysor o fath arall! Mae holl hanes yr ymfudiad i Batagonia yma, gan gynnwys nifer o luniau a dogfennau hynod ddiddorol.