Cyhoeddwyd gan: Hywel Griffiths | Ionawr 17, 2011

Newyddion drwg yn yr afon a’r goedwig

Ar ol y newyddion da ynglyn a iechyd ein hafonydd ar droad y flwyddyn, mae ambell stori llai cadarnhaol wedi ymddangos yn y wasg yn ddiweddar. Ar ol i ddata Asiantaeth yr Amgylchedd ddangos bod rhywogaethau o bysgod yn dychwelyd i afonydd Cymru oherwydd bod safon dwr wedi gwella’n sylweddol, ymddengys nad yw hyn yn wir ar gyfer pob rhywogaeth. Mae’r stori yma yn nodi bod niferoedd brithyll y mor, neu’r sewin, a fu mor niferus yn afonydd Cymru ac mor boblogaidd ar fwydlenni, yn lleihau. Yn y gorffennol, bu afonydd fel Afon Tywi, Afon Teifi ac Afon Dyfi yn enwog am y sewin oedd ynddynt. Bellach mae’r niferoedd wedi gostwng, yn ogystal a maint y pysgod eu hunain.  Yn ogystal a bod yn achos pryder amgylcheddol amlwg, mae’n bosib bod hyn hefyd yn bygwth twristiaeth pysgota.  Fel mae Emyr Lewis, a arferai weithio fel cipar ar Afon Ddyfi, roedd pysgotwyr yn dod o bell i westai Bro Ddyfi er mwyn profi’r pysgota sewin gorau.  Mae’r ffaith nad ydym yn gwybod yn iawn beth mae’r pysgod yma yn ei wneud pan y mae’n nhw allan yn y mor yn ychwanegu at y dryswch a’r pryder sydd ynghlwm a’r mater yma.

Yn ogystal a’r newyddion drwg yma, mae ein coedwigoedd hefyd yn wynebu problemau.  Mae’n ymddangos bod ‘Sudden Oak Death‘ sydd wedi lladd nifer fawr iawn o goed deri yng Ngogledd America bellach wedi lledu i’r wlad yma, ac wedi ‘neidio’ i rywogaeth arall sef llarwydd Siapan (Japansese Larch).  Mae’r clefyd, sydd yn perthyn i’r un clefyd oedd yn gyfrifol am y newyn yn Iwerddon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn y Deyrnas Unedig ers 2002, ond roedd yn ymddangos bod coed deri’r gwledydd yma yn medru ei wrthsefyll.  Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi ymateb trwy ddechrau cwympo coed yn nyffryn Afan yn ne Cymru, ac wedi clustnodi ardal o dros 2,000 cyfer ar gyfer clirio pellach i drio atal y clefyd rhag lledaenu.  Mae achosion hefyd wedi cael eu nodi yn nyffryn Garw, Bro Morgannwg, Castell Nedd, wrth ymyl Llyn Brenig yn Sir Ddinbych ac ym Mwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth.  Mae rhai wedi nodi bod hyn o bosib yn ganlyniad i newid hinsawdd wrth inni brofi hafau gwlypach a chynhesach sydd yn amgylchiadau boddhaol ar gyfer tyfiant y clefyd.  Y gobaith yw y bydd gweithgareddau buan y Comisiwn yn sicrhau nad yw’r clefyd yn lledaenu nac yn dechrau effeithio rhywogaethau eraill, yn enwedig felly y coed deri sydd yn gymaint rhan o amgylchedd hanesyddol a chyfredol Cymru.

Advertisements
Cyhoeddwyd gan: Hywel Griffiths | Ionawr 7, 2011

Lluniau lloeren

Dyma ddetholiad y Guardian o rai o’r delweddau mwyaf trawiadol o’r ddaear a dynnwyd gan loerennau ym mis Rhagfyr. Maent yn cynnwys lluniau o’r eira a effeithiodd ar y Deyrnas Unedig a’r llifogydd sydd yn parhau i effeithio ar Queensland yn Awstralia.

Cyhoeddwyd gan: Hywel Griffiths | Ionawr 6, 2011

Aur ym Mhatagonia?

Stori arall ddiddorol a ddaeth i’r fei dros y gwyliau oedd bod posibilrwydd y byddai ‘goldrush’ newydd yn cychwyn yn ardal y Wladfa Gymreig ym Mhatgonia. Yn ol gwefan Mineweb mae prisiau uchel metelau fel aur ac arian ar draws y byd yn golygu bod archwilio newydd yn digwydd ar draws y byd.  Yn ol y wefan mae’r mwyafrif o’r ardaloedd lle mae archwilio dwys yn ardaloedd sydd a hanes hir o fwyngloddio e.e. ardal yr Yukon, Ontario, Quebec, Gorllewin Affrica, Gorllewin Awstralia a De Affrica.  Yr un ardal o archwilio newydd yw Patagonia, a rhanbarth Santa Cruz.  Yn ol y wefan mae’r archwiliadau cynnar yn dangos gwythiennau gwerthfawr iawn, yn enwedig gwythiennau arian.  Mae fflyd o gwmniau rhyngwladol bellach yn archwilio’r ardal.  Mae’r wefan yn nodi y gallai hyn fod yn hwb economaidd enfawr i’r ardal, ond ei fod yn dibynnu ar gydweithrediad gan awdurdodau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol ac wrth gwrs mae cwestiynau amgylcheddol yn siwr o godi wrth i hyn ddatblygu. Dyma’r stori yn y Western Mail.

Dyma wefan Glaniad sydd yn drysor o fath arall! Mae holl hanes yr ymfudiad i Batagonia yma, gan gynnwys nifer o luniau a dogfennau hynod ddiddorol.

Cyhoeddwyd gan: Hywel Griffiths | Ionawr 5, 2011

Iechyd da i afonydd y DU

Ar ddechrau blwyddyn fel hyn mae nifer fawr o bynciau amgycheddol yn y newyddion sydd yn haeddu sylw. Mae llifogydd difrifol Awstralia, a’r eira mawr sydd ond wedi dechrau meirioli yn ddau bwnc amlwg ym myd daearyddiaeth ffisegol, ac rwy’n gobeithio cael cyfle i ddychwelyd atynt dros yr wythnosau nesaf.

Fodd bynnag, wrth inni ffarwelio a 2010 o dan orchudd o eira, torrodd stori ddiddorol a gobeithiol ynglyn a iechyd ein hafonydd. Mae data a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn ddiweddar yn nodi bod safon dwr afonydd ar draws Cymru a Lloegr yn well nag y bu ers cyn y Chwyldro Diwydiannol. Mae’r data yn dangos bod safon dwr wedi cynyddu bob blwyddyn ers dwy ddegawd, a bod achosion o lygredd dwr difrifol wedi hanneru yn ystod yr un cyfnod.  Mae hyn wedi golygu bod bywyd gwyllt o bob math, yn eogiaid, dyfrgwn a llygod pengrwn y dwr wedi dychwelyd at yr afonydd.

Yng Nghymru yn benodol mae tystiolaeth bod dyfrgwn yn Afon Gwy wedi cyrraedd y lefelau uchaf y gall yr afon eu cefnogi, a bod basn yr Hafren yn dangos tueddiad tebyg.  Yn yr afonydd hynny a fu’n wythiennau pwysig ar gyfer ffyniant y meysydd glo a haearn, fel Afon Taf, Afon Rhondda, Afon Ebbw, ac Afon Rhymni yn enwedig, mae eogiaid wedi dychwelyd mewn niferoedd uchel, a’u taith i fyny’r afon yn cael cymorth gan strwythurau fel yr ysgol bysgod wrth Blackweir yng Nghaerdydd.  Ffrwyth 20 mlynedd o waith gan yr Asiantaeth yn yr ardal yw hyn.

Afon Alun ger Trefalun

Yn Lloegr, mae’r gwelliant a fu yn yn yr afonydd sydd yn llifo drwy ganolfannau dinesig ac ardaloedd yr hen ddiwydiannau trwm wedi bod yn rhyfeddol.  Mae lefelau eogiaid yn Afon Merswy wedi cynyddu tra bod lefelau eogiaid Afon Tyne ymhlith yr uchaf yn Lloegr.   Mae’r gwelliant yn Afon Tafwys wedi bod yn syfrdanol.  Mae tua 125 rhywogaeth o bysgod bellach yn byw yn yr afon, mae eogiaid yn nofio i fyny’r afon, mae ei moryd yn gartre i bysgod cregyn, ac mae yna boblogaethau o frithyll brown yn rhai o’r llednentydd.  Tipyn o welliant i afon a oedd yn derbyn carthffosiaeth heb ei drin tan y 60au.

Mae hyn yn newyddion da iawn i’r afonydd, ac i holl ddefnyddwr yr amgylchedd afonol, o geufadwyr i bysgotwyr a ffermwyr, ond hefyd i’r Asiantaeth ei hunan wrth iddi geisio sirchau bod holl afonydd Cymru a Lloegr yn cyrraedd safon arbennig o dan y ‘Water Framework Directive’ erbyn 2015.  Set o reoliadau Ewropeaidd yw’r rhain sydd yn mesur safon dwr, nid wrth lefelau cemegolion fel y mae’r Asiantaeth yn ei ddefnyddio fel sail i’r newyddion da diweddar, ond wrth ei safon ecolegol.  Hynny yw, faint o fywyd sydd yn yr afon, faint o blanhigion sydd yn tyfu ar ei gwely a’i glannau, faint o bysgod, dyfrgwn, adar a chreaduriaid di-asgwrn cefn sydd yn byw ynddi, er engrhaifft.  Ar hyn o bryd dim ond chwarter afonydd Cymru a Lloegr sydd yn cyrraedd y lefel angenrheidiol ‘da’, a dros hanner yn cyrraedd y lefel ‘cymedrol.’  Fodd bynnag, fel y mae’r data diweddar yn awgrymu, wrth i safon cemegol dwr wella, mae bywyd gwyllt hefyd yn ffynnu, ac os bydd y patrwm o welliant yma yn parhau yna mae’r sefyllfa yn ymddangos yn un gadarnhaol.

Mae stori fel hyn hefyd yn codi’r cwestiwn o ba elfennau y dylid eu defnyddio wrth benderfynu ar ‘iechyd’ afon? A ddylid glynu at fesuriadau cemegol o safon dwr, neu eu cyfuno gydag ystyriaethau ecolegol, fel y mae’r ‘Water Framework Directive’ yn ei wneud? Beth am ystyriaethau esthetig, a geomorffolegol? A ellid diffinio stad geomorffolegol ‘iach’? Y gwir yw wrth gwrs, yw bod yr holl elfennau yma yn gysylltiedig.  Mae amrywiaeth morffolegol mewn afon yn creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ac yn y blaen.  Weithiau wrth gwrs, mae’r rheiny sydd yn mwynhau defnyddio’r afonydd ar gyfer pwrpasau gwahanol yn anghytuno ar y dulliau gorau o reoli safon a iechyd yr afonydd, ond stori arall  yw honno!

http://www.guardian.co.uk/environment/2010/dec/31/freshwater-wildlife-thriving-clean-rivers

http://www.independent.co.uk/environment/nature/britains-rivers-come-back-to-life-2172580.html

http://www.independent.co.uk/environment/nature/a-giant-leap-for-british-salmon-1874222.html

Cyhoeddwyd gan: Hywel Griffiths | Gorffennaf 12, 2010

Wythnos y seremoniau graddio

Mae’n dawel iawn ar gampws Penglais heddiw gan bod y myfyrwyr wedi mynd adre ond mae’r lle ar fin troi’n ferw gwyllt unwaith eto wrth i’r sermoniau graddio gychwyn ‘fory. Mi yden ni fel staff yn edrych ymlaen yn fawr at weld gwaith caled y tair mlynedd ddiwethaf yn dwyn ffrwyth a chael sgwrs gyda’r myfyrwyr a’u gwesteion. Os ydych chi’n dod i’r seremoni, bydd yna lun o’r graddedigion a’r staff yn cael ei dynnu ar risiau LaScala wrth yr undeb (os yw’n braf) neu yn y neuadd fawr (os yw’n bwrw). Dewch draw!

Cyhoeddwyd gan: Hywel Griffiths | Mehefin 2, 2010

Sefydliad Daearyddaieth a Gwyddorau Daear yn Eisteddfod yr Urdd

Os ydych chi o gwmpas y maes yn Llannerchaeron eisoes, neu yn bwriadu ymweld erbyn diwedd yr wythnos, galwch draw i’r GwyddonLe (y babell wyddoniaeth). Mae arddangosfa o bosteri yn dangos peth ymchwil yn yr adran ddaearyddiaeth i’w gweld yno, a chyfle i chi gasglu pos math o wybodaeth amdanom. Mae yna lu o arddangosfeydd eraill hefyd, yn cwmpasu bioleg, ffiseg a chemeg, a gweithdai amrywiol bob dydd. Mi fydda i yno ddydd Gwener gyda ‘flume’ – sianl afon artiffisial sydd yn galluogi ni i astudio llif afon mewn labordy. Dewch draw am 2!

Hywel

Cyhoeddwyd gan: Hywel Griffiths | Ebrill 15, 2010

Echdoriad folcanig yng Ngwlad yr Ia

Mae echdoriad folcanig yn Ngwlad yr Ia wedi achosi i nifer fawr iawn o feysydd awyr a chwmniau awyrennau i ganslo eu teithiau heddiw. Dyma’r ail echdoriad folcanig yn ardal Eyjafjallajoekull mewn mis. Yn gynharach yn y mis echdorrodd llosgfynydd arall yn yr ardal, a oedd wedi ei leoli o dan orchudd o ia, gan achosi hollt 1km o hyd yn yr ia hwnnw. Dyma luniau o wefan y BBC yn dangos hyn http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/8578576.stm


Mae’r echdoriad diweddaraf hefyd o dan orchudd o ia ac yn parhau i echdorri ar hyn o bryd. Mae’r cwmwl o lwch a lludw, sydd yn cynnwys darnau bychain o wydr, tywod a chraig bellach wedi achosi i deithiau gael eu gohirio yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon a’r gwledydd Sgandinafaidd yn ogystal. Disgwylir i’r cwmwl symud i’r de dros Ewrop yn y dyddiau nesaf, ond nid yw’n glir i ba raddau y bydd yn teneuo ac yn gwasgaru gydag amser. Y gofid yw ar hyn o bryd y gall y darnau bychain o wydr a thywod sydd yn y cwmwl llwch achosi i beiriannau’r awyrennau beidio a gweithio, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol i awyrennau sydd yn hedfan trwy gymylau o lwch folcanig. Mae Gwlad yr Ia yn wlad sydd yn hynod o actif o ran tectoneg, oherwydd ei fod wedi ei lleoli ar y ffin rhwng platiau tectonig Gogledd America ac Ewrasia. Er bod geoffisegwyr yn ystyried yr echodoriadau diweddaraf yn rhai bychain, mae pryder y bydd yr echdoriadau yma yn achosi echdoriadau pellach gan losgfynyddoedd mwy yn yr ardal.

http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk/8621407.stm

Cyhoeddwyd gan: Hywel Griffiths | Ionawr 4, 2010

Tir mawn yn mynd tua’r mor – 2

Mae’r prosiect sydd yn edrych ar symudiadau dyddodion yn y darn o Afon Ddyfi sydd yn cynnwys y trawsffurfiad rhwng yr amgylchedd afonol a’r amgylchedd forol bellach wedi cychwyn.  Ddeuddydd cyn y Nadolig gosodwyd mesurydd TROLL (sydd yn mesur pH, tymheredd, lefel dwr, a chrynodiad dyddodion man) wrth fesurydd llif Asiantaeth yr Amgylchedd ger Pont ar Ddyfi, a gosodwyd y rhwydwaith mesur yn ei le rhwng Machynlleth a Glandyfi.  Un o’r dulliau mwyaf diddorol a osodwyd yn ei le yw trawsluniau (transects) o sgwariau bychain o ddeunydd astroturf bob 50 m ar draws y gorlifdir.  Hoeliwyd y sgwariau yma i mewn i’r gorlifdir a chofnodi eu lleoliad gyda system GPS.  Pan fydd y llifogydd nesaf yn digwydd, bydd modd dychwelyd at y sgwariau bach yma er mwyn canfod faint o ddyddodion man a fydd wedi cael eu dyddodi arnynt gan y llif arbennig yna.  Bydd hyn yn rhoi syniad inni o’r cyfradd y mae dyddodion man yn symud trwy’r ardal yma a pha mor gyflym y mae’r gorlifdir yn cael ei greu.  Mi fuon ni hefyd yn mesur ardaloedd o lannau’r afon a oedd yn amlwg yn erydu, er mwyn canfod cyfraddau erydiad yn yr ardal.  Mi fydd gweddill y gwaith cychwynnol yn digwydd yn ystod y mis nesaf, pan fydd y tywydd wedi meirioli ychydig, gobeithio!

System GPS Trimble

Cyhoeddwyd gan: Hywel Griffiths | Ionawr 4, 2010

Dysgu byw’n well: tadofalaeth feddal yn y Deyrnas Gyfunol

Ar yr ochr ddynol o ddaearyddiaeth, mae yna brosiect ymchwil newydd wedi cychwyn yn Aberystwyth, yn ymwneud a perthynas dinasyddion a’r wladwriaeth. Rydym yn ymwybodol ein bod ein cymdeithas bellach yn wynebu cyfres o heriau amrywiol sy’n deillio o ymddygiad amhriodol ar ran dinasyddion. Rydym yn profi argyfwng credyd sydd wedi deillio i raddau helaeth o anallu unigolion i gynllunio mewn ffyrdd synhwyrol ar gyfer eu dyfodol. Mae nifer cynyddol o bobl ifainc ac oedolion yn ordew ac yn creu straen ar eu cyrff a’r Gwasanaeth Iechyd. Mae nifer ohonom hefyd yn gyndyn iawn i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gan gynyddu’r problemau amgylcheddol sy’n wynebu’n byd.

Fel ffordd o ymateb i’r heriau hyn, mae’r wladwriaeth, corfforaethau ac unigolion eraill yn ceisio annog dinasyddion i ymddwyn mewn ffyrdd a fydd o fudd iddynt hwy – er enghraifft, drwy gynilo arian ar gyfer ymddeoliad, bwyta’n iachach a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Dyma beth a olygir gan dadofalaeth feddal, sef yr ymgais ar ran y wladwriaeth a chyrff eraill i annog – yn hytrach na gorfodi – ymddygiad gwell a mwy chyfrifol ymysg dinasyddion.

Mae’r prosiect ymchwil tair mlynedd yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn cael ei noddi gan gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, yn ceisio astudio’r ffordd y mae polisïau o’r fath yn arwain at berthynas wahanol rhwng y wladwriaeth a’i dinasyddion:

• Pa fath o gyfrifoldebau newydd sy’n ymddangos ymysg dinasyddion yn sgil y polisïau hyn?
• Pa fath o hawliau mae dinasyddion yn meddu arnynt fel rhan o’r polisïau hyn?
• Pa ddychymyg daearyddol sy’n gysylltiedig â pholisïau o’r fath (e.e. cyfrifoldeb tuag at cyd-ddinasyddion Prydeinig ar gyfer y rheiny sy’n gor-fwyta a gor-yfed a chyfrifoldeb tuag at y byd yn gyfangwbl ar gyfer y rheiny sy’n gor-ddefnyddio adnoddau prin).

Mi wnawn ni adrodd ar ganlyniadau a datblygiadau’r prosiect dros y misoedd nesaf!

Awdur y blogiad post yma yw Rhys Jones, darlithydd mewn daearyddiaeth yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Cyhoeddwyd gan: Hywel Griffiths | Rhagfyr 14, 2009

Arwain y ffordd yng Nghymru

Wrth i ni agosáu at ŵyl y Nadolig, bu cynnwrf mawr arall wrth i ni groesawu un o ddaearyddwr mwyaf dylanwadol y byd i ‘Diwrnod Hinsawdd Aber’ ar yr ail o Ragfyr, 2009. Dyfodol hinsawdd y byd oedd ar yr agenda, a chafwyd cyfres o ddarlithoedd yn trafod prif faterion y pwnc llosg hwn.

Unwyd cynulleidfa enfawr o ddarlithwyr, myfyrwyr, disgyblion a’r cyhoedd i wrando ar y brif ddarlith ar “Gwyddoniaeth, effeithiau a gwleidyddiaeth newid hinsawdd” gan Syr John Houghton, CBE, FRS, sy’n cyn-brif weithredwr y Met Office a chyd-gadeirydd y Scientific Assessment for the Intergovernmental Panel on Climate Change (IPCC) (a wnaeth ennill y Gwobr Heddwch Nobel yn 2007]. Dilynwyd darlith John Houghton gan saith sgwrs fer gan ddarlithwyr o’r adran yn Aberystwyth ac o Seland Newydd. Canolbwyntiodd y ‘rhain ar eu gwaith ymchwil ar draws y byd; er enghraifft, Y Las Ynys, Awstralia a Chymru fach. Cymru, wrth gwrs, yw’r lle dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain; tua dau gan mlynedd yn ôl, y sbardun posib i’r cynhesu yr ydym yn ei brofi yn awr.

Gan ddefnyddio geiriau ysgogol Winston Churchill, “The farther backward you can look, the farther forward you are likely to see”, edrychwyd ar hinsawdd y byd miliynau o flynyddoedd yn ôl er mwyn edrych i’r dyfodol. Erbyn diwedd y dydd, sylweddolwyd y gallai ein dylanwad ni ar y byd fynd â ni nôl at hinsawdd debyg i’r hyn a oedd yn bodoli cyn bodolaeth y dinosoriaid; pan oedd yr Antarctig wedi ei orchuddio â choed. Petai hyn yn digwydd, buaswn yn gyfrifol am golledion anferthol ym myd natur, gan gynnwys y pengwiniaid isod.

Y symbyliad ar gyfer y digwyddiad yma oedd Cynhadledd Newid Hinsawdd yr Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen sydd yn digwydd ar hyn o bryd; 7-18 o Ragfyr, 2009. Ystyrir hyn yn gynhadledd holl bwysig am fod yna deimlad ac ofn bod rhaid gwneud penderfyniadau a newidiadau mawr nawr er mwyn sicrhau yfory. Am un diwrnod, roedd Aberystwyth yn seren ddisglair yn arwain y ffordd. Medrwch chi hefyd rhoi’ch neges chi yn uniongyrchol i arweinyddion y byd ar http://en.cop15.dk/, fel y negeseuon y gwelwch isod.

Dear Leaders of the World,
Do not waste this opportunity nor our planet! Common efforts are vital – please unite and save our future.
Yours sincerely, Kerstin Rosen Nilsson, Sweden

Dear Leaders of the World,
We need your wise decisions today because we ran out of tomorrows yesterday. I wish you courage no money can buy!
Yours sincerely, Helena Cimerova, Portugal

Dear Leaders of the World,
Our beautiful Lake Titicaca is evaporating… Can you please turn OFF the sun? STOP GLOBAL WARMING.
Yours sincerely, Valeria Garcia D.V., Bolivia

Awdur y post hwn oedd Cerys Jones, myfyrwraig doethuriaeth yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth

Older Posts »

Categorïau